Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1 i 3, 5 i 13 a 15. Cafodd cwestiynau 2,
3 a 10 eu grwpio. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn 14. Atebwyd
cwestiwn 5 a 8 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.21 Gofynnwyd y 15 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar yr ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - adroddiad dilynol NDM5415
Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad dilynol y Pwyllgor Amgylchedd a
Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2013. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ionawr 2014. Dogfennau
ategol: Adroddiad
y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 15.05 NDM5415
Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad dilynol y Pwyllgor Amgylchedd a
Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2013. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5416
William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi'r cynigion ar gyfer mewnfuddsoddi a amlinellwyd yn
nogfen Ceidwadwyr Cymru ‘Destination Cymru’. Mae ‘Cyrchfan Cymru’ ar gael yn: Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi ansawdd gwael y data a gasglwyd ar lefel genedlaethol
(Cymru) ar gyfer Buddsoddi Uniongyrchol Tramor ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
weithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i ddarparu data cynhwysfawr ar
Fuddsoddi Uniongyrchol Tramor gan gynnwys sectorau, tarddiad a gwerth. Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod bod amgylchiadau economaidd wedi newid yn
sylweddol dros y ddau ddegawd diwethaf a bod yn rhaid i strategaeth Llywodraeth
Cymru newid hefyd yn unol â hynny. Gwelliant
3 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad oes gan UK Trade & Investment ganolfan yng
Nghymru na strategaeth ar gyfer Cymru er bod ganddynt un ar gyfer Lloegr a’r
Alban. Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi ymchwiliad presennol y Pwyllgor Menter a Busnes i
ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at hybu masnach a mewnfuddsoddi. Mae manylion ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes ar gael
yn: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=8492 Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi sylwadau Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth i’r Pwyllgor Menter a Busnes ar 14 Mawrth 2012 nad yw Llywodraeth
Cymru wedi llwyddo i gael y brand yn gywir ar gyfer Cymru, ac yn gresynu nad
oes dim strategaeth brandio wedi’i chyflwyno ers hynny. Mae trawsgrifiad o gyfarfod y Pwyllgor Menter a Busnes a
gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2012 ar gael yn: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=1307 Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.56 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5416
William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi'r cynigion ar gyfer mewnfuddsoddi a amlinellwyd yn
nogfen Ceidwadwyr Cymru ‘Cyrchfan Cymru’.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi ansawdd gwael y data a gasglwyd ar lefel genedlaethol
(Cymru) ar gyfer Buddsoddi Uniongyrchol Tramor ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
weithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i ddarparu data cynhwysfawr ar
Fuddsoddi Uniongyrchol Tramor gan gynnwys sectorau, tarddiad a gwerth. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod bod amgylchiadau economaidd wedi newid yn
sylweddol dros y ddau ddegawd diwethaf a bod yn rhaid i strategaeth Llywodraeth
Cymru newid hefyd yn unol â hynny. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant
3 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad oes gan UK Trade & Investment ganolfan yng
Nghymru na strategaeth ar gyfer Cymru er bod ganddynt un ar gyfer Lloegr a’r
Alban. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi ymchwiliad presennol y Pwyllgor Menter a Busnes i
ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at hybu masnach a mewnfuddsoddi. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi sylwadau Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth i’r Pwyllgor Menter a Busnes ar 14 Mawrth 2012 nad yw Llywodraeth
Cymru wedi llwyddo i gael y brand yn gywir ar gyfer Cymru, ac yn gresynu nad oes
dim strategaeth brandio wedi’i chyflwyno ers hynny. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5416
William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi'r cynigion ar gyfer mewnfuddsoddi a amlinellwyd yn
nogfen Ceidwadwyr Cymru ‘Cyrchfan Cymru’. Yn nodi ymchwiliad presennol y Pwyllgor Menter a Busnes i
ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at hybu masnach a mewnfuddsoddi.
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5417
Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi canfyddiadau'r Cynllun Bwyd Ysgol y byddai prydau
ysgol am ddim i bob plentyn mewn ysgolion cynradd yn arwain at welliannau
cadarnhaol o ran iechyd, cyrhaeddiad addysgol a chydlyniant cymdeithasol ac yn
helpu teuluoedd gyda chostau byw. 2. Yn nodi mai 21% yn unig o blant oed babanod yng Nghymru
sydd ar hyn o bryd yn cael pryd bwyd ysgol am ddim a thua 24% yn unig o
ddisgyblion oed cynradd yn 2012-13 a gymerodd frecwast ysgol am ddim. 3. Yn nodi y bydd Cymru yn cael dros £62 miliwn o gyllid
refeniw canlyniadol Barnett ar gyfer 2014-16 a thros £4 miliwn o gyllid cyfalaf
yn 2014-15 yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU ar brydau ysgol am ddim i bob
disgybl oed babanod yn Lloegr. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio cyllid
canlyniadol Barnett i gyflwyno prydau ysgol am ddim yn gyffredinol i blant oed
babanod yng Nghymru, er mwyn i bob plentyn bach gael pryd bwyd ysgol poeth,
iach i hybu iechyd, addysg a lles disgyblion. Mae'r Cynllun Bwyd Ysgol ar gael yma: http://www.schoolfoodplan.com/plan/
(Saesneg yn unig) Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion) Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl 'Cynllun Bwyd Ysgol' a rhoi
yn ei le: ‘bod plant sy’n bwyta bwyd maethlon yn dod ymlaen yn well yn yr
ysgol’. Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Ym mhwynt 4, dileu popeth ar ôl ‘refeniw canlyniadol Barnett’
a rhoi yn ei le: ‘yn y ffordd fwyaf effeithiol a sicr o wella safonau a lles ac
i gyhoeddi rhaglen o’i bwriadau yng nghyswllt pob darpariaeth ar gyfer bwyd
ysgol'. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.51 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5417
Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi canfyddiadau'r Cynllun Bwyd Ysgol y byddai prydau
ysgol am ddim i bob plentyn mewn ysgolion cynradd yn arwain at welliannau
cadarnhaol o ran iechyd, cyrhaeddiad addysgol a chydlyniant cymdeithasol ac yn
helpu teuluoedd gyda chostau byw. 2. Yn nodi mai 21% yn unig o fabanod yng Nghymru sydd ar hyn
o bryd yn cael pryd bwyd ysgol am ddim a thua 24% yn unig o ddisgyblion oed
cynradd yn 2012-13 a gymerodd frecwast ysgol am ddim. 3. Yn nodi y bydd Cymru yn cael dros £62 miliwn o gyllid
refeniw canlyniadol Barnett ar gyfer 2014-16 a thros £4 miliwn o gyllid cyfalaf
yn 2014-15 yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU ar brydau ysgol am ddim i
bob disgybl oed babanod yn Lloegr. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio cyllid
canlyniadol Barnett i gyflwyno prydau ysgol am ddim yn gyffredinol i fabanod
yng Nghymru, er mwyn i bob plentyn bach gael pryd bwyd ysgol poeth, iach i hybu
iechyd, addysg a lles disgyblion.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion) Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl 'Cynllun Bwyd Ysgol' a rhoi
yn ei le: ‘bod plant sy’n bwyta bwyd maethlon yn dod ymlaen yn well yn yr
ysgol’. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Ym mhwynt 4, dileu popeth ar ôl ‘refeniw canlyniadol Barnett’
a rhoi yn ei le: ‘yn y ffordd fwyaf effeithiol a sicr o wella safonau a lles ac
i gyhoeddi rhaglen o’i bwriadau yng nghyswllt pob darpariaeth ar gyfer bwyd
ysgol'. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y
cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig,
gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 17.44 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5413
Eluned Parrott (Canol De Cymru) Cyflogaeth i Raddedigion - Atal y Draen Dawn i Loegr Creu swyddi a chyfleoedd yng Nghymru i'r graddedigion gorau a
mwyaf deallus o Brifysgolion Cymru Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 17.50 NDM5413
Eluned Parrott (Canol De Cymru) Cyflogaeth i Raddedigion - Atal y Draen Dawn i Loegr Creu swyddi a chyfleoedd yng Nghymru i'r graddedigion gorau a
mwyaf deallus o Brifysgolion Cymru |