Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins. Ni
chafwyd dirprwy ar ei rhan. |
|
Deisebau newydd |
|
P-04-613 Dylai Aelodau’r Cynulliad wrthod yr argymhelliad i gynyddu eu cyflogau 18% Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 - 1
Datganodd yr Aelodau o'r Pwyllgor a oedd yn bresennol fuddiant perthnasol o ran
pwnc y ddeiseb. 2.1 - 2
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y
deisebydd yn gofyn am ei sylwadau ar y llythyr oddi wrth Gadeirydd y Bwrdd
Taliadau Annibynnol. |
|
P-04-623 Wella’r Ddarpariaeth o Dai sy’n Addas i Bobl Anabl yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i: ·
Geisio
sylwadau pellach gan y deisebwyr ar y pwyntiau penodol a godwyd yn y paragraff
olaf yn llythyr y Gweinidog; ac ·
Ysgrifennu
at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gofyn a yw pob awdurdod lleol yn
cynnwys Safon Ansawdd Tai Cymru yn ei Gynlluniau Datblygu Lleol. |
|
Yr wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-598 Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Anabledd Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
Ysgrifennu
eto at y deisebydd, yn gofyn am ei farn ar ohebiaeth flaenorol; a ·
Chau'r
ddeiseb os na cheir ymateb ymhen chwe wythnos. |
|
P-04-511 Cefnogi’r safonau cyfranogaeth plant a phobl ifanc Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y
Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ac at Blant yng Nghymru yn gofyn am eu barn
ar y pwyntiau a godwyd gan y deisebwyr. |
|
P-04-535 Achubwch ein Gorsafoedd Tân Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
Ysgrifennu
eto at y deisebydd, yn gofyn am ei farn ar ohebiaeth flaenorol; a ·
Chau'r
ddeiseb os na cheir ymateb ymhen chwe wythnos. |
|
P-04-563 Y ddarpariaeth o wasanaethau yng ngorsaf dân Pontypridd Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
Ysgrifennu eto
at y deisebydd, yn gofyn am ei farn ar ohebiaeth flaenorol; a ·
Chau'r
ddeiseb os na cheir ymateb ymhen chwe wythnos. |
|
P-04-596 Achub Gorsaf Dân y Porth – MAE’R EILIADAU’N CYFRIF! Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
Ysgrifennu
eto at y deisebydd, yn gofyn am ei farn ar ohebiaeth flaenorol; a ·
Chau'r
ddeiseb os na cheir ymateb ymhen chwe wythnos. |
|
P-04-592 Pleidleisiau gan Ddinasyddion sy’n Rhwymol yn Ddemocrataidd ar Lefel Llywodraeth Leol Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
Ysgrifennu
eto at y deisebydd, yn gofyn am ei farn ar ohebiaeth flaenorol; a ·
Chau'r
ddeiseb os na cheir ymateb ymhen chwe wythnos. |
|
P-04-525 Ariannu Gwobrau CREST yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, yn sgil y newyddion cadarnhaol bod
y mater a godwyd yn y ddeiseb wedi cael ei ddatrys ar gyfer y flwyddyn ariannol
gyfredol, gyda thrafodaethau yn parhau yn y blynyddoedd i ddod, cytunwyd i
gau'r ddeiseb. |
|
P-04-585 Newidiadau i gyffordd yr A494/A470 yn Nolgellau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i: ·
Ysgrifennu
at y deisebydd yn gofyn a yw'n fodlon ar y camau a gynigiwyd gan y Gweinidog;
ac yna ·
Gau'r
ddeiseb oni bai ein bod yn clywed yn wahanol gan y deisebydd cyn pen chwe
wythnos wedi ysgrifennu ati. |
|
P-04-594 Apêl Cyngor Cymuned Cilmeri ynghylch y Gofeb i’r Tywysog Llywelyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebwyr a chytunwyd i ysgrifennu at Weinidog yr
Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gofyn am ei barn ynghylch a yw
arwyddion ffordd ar yr A483 ar gyfer y gofeb yn ddichonadwy. |
|
P-04-542 Cyfleoedd Ymarferol i Bobl Ifanc Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
Ysgrifennu
eto at y deisebydd, yn gofyn am ei farn ar ohebiaeth flaenorol; a ·
Chau'r ddeiseb
os na cheir ymateb ymhen chwe wythnos. |
|
P-04-551 Dysgu Cymorth Cyntaf Sylfaenol Mewn Ysgolion Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
Ysgrifennu
eto at y deisebydd, yn gofyn am ei farn ar ohebiaeth flaenorol; a ·
Chau'r
ddeiseb os na cheir ymateb ymhen chwe wythnos. |
|
P-04-569 Rhowch y Gorau i Gynnal y Profion Cenedlaethol ar gyfer Plant Ysgolion Cynradd Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
Ysgrifennu
eto at y deisebydd, yn gofyn am ei farn ar ohebiaeth flaenorol; a ·
Chau'r
ddeiseb os na cheir ymateb ymhen chwe wythnos. |
|
P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i wahodd y Gweinidog a'r
deisebydd i roi tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor gyda golwg ar i'r Pwyllgor
adrodd i'r Cynulliad maes o law. |
|
P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafodwyd y
ddeiseb ynghyd ag eitem agenda 3.15 (P-04-466) Ystyriodd y
Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf oddi wrth Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol
Betsi Cadwaladr am y sefyllfa yn lleol a chytunwyd i ofyn am farn y deisebydd
ar y sefyllfa bresennol. |
|
P-04-466 Argyfwng Meddygol – Atal cyflwyno gwasanaeth iechyd o safon is yng ngogledd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafodwyd y
ddeiseb ynghyd ag eitem agenda 3.14 (P-04-479) Ystyriodd y
Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf oddi wrth Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol
Betsi Cadwaladr am y sefyllfa yn lleol a chytunwyd i ofyn am farn y deisebydd
ar y sefyllfa bresennol. |
|
P-04-534 Ymgyrch i ddiogelu YSBYTY ABERTEIFI Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
Ysgrifennu
eto at y deisebydd, yn gofyn am ei farn ar ohebiaeth flaenorol; a ·
Chau'r
ddeiseb os na cheir ymateb ymhen chwe wythnos. |
|
P-04-552 Diogelu Plant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunwyd i ofyn am farn y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol cynnwys yr ohebiaeth. |
|
P-04-514 Dylid adeiladu gorsaf bŵer sy'n defnyddio glo glân o Gymru a/neu gorsaf ynni adnewyddadwy yn hytrach na gorsaf niwclear arfaethedig Wylfa B ar Ynys Môn. Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf gan y
Gweinidog am y datblygiadau diweddaraf mewn perthynas ag Wylfa B a datblygu
technoleg glo glân, gan gynnwys unrhyw ymwneud â Hitachi. |
|
P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ystyried y ddeiseb eto,
gan gynnwys a ddylid pwyso ar y Gweinidog i roi tystiolaeth lafar, unwaith y
bydd ymatebion oddi wrth ohebwyr eraill wedi dod i law. |
|
P-04-550 Pwerau Cynllunio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ofyn am farn y Gweinidog
Cyfoeth Naturiol ar sylwadau’r deisebwyr. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Item
5. Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod
er mwyn trafod y busnes canlynol: Eitem 5 -
Adroddiadau Drafft y Pwyllgor |
|
Adroddiadau Drafft y Pwyllgor Dogfennau ategol:
|