Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Alun Davidson 029 2089 8639
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mick Antoniw, Llyr Gruffydd ac Antoinette
Sandbach. Bu Elin Jones ac Andrew R T Davies
yn dirprwyo yn y cyfarfod. |
||
(09:30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 3, 7 ac 8 Cofnodion: 2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig. |
|
(09:30 - 10:10) |
Bil Cynllunio Drafft (Cymru): Trafod y llythyr at y Gweinidog Tai ac Adfywio Cofnodion: 3.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft, a chytunodd y byddai'r
newidiadau a drafodwyd yn cael eu dosbarthu ar ffurf e-bost i'r Aelodau i'w
cymeradwyo. 3.2 Os nad yw'n bosibl cytuno ar y newidiadau i'r llythyr drwy e-bost,
cytunodd y Pwyllgor y byddai'n cynnal trafodaeth bellach yn ystod ei gyfarfod
nesaf. |
|
(10:10 - 11:00) |
Ymchwiliad i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd: Tystiolaeth gan Dr Scott Le Vine Dr Scott Le
Vine, Y Ganolfan Astudiaethau Trafnidiaeth, Imperial College, Llundain Cofnodion: 4.1 Bu Dr Le Vine yn ymateb i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor. |
|
(11:05 - 11:55) |
Ymchwiliad i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd: Tystiolaeth gan yr Athro Phil Goodwin Yr Athro Phil Goodwin, Athro
Trafnidiaeth, Prifysgol Gorllewin Lloegr Cofnodion: 4.1 Ymatebodd yr Athro Goodwin i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. |
|
Papurau i’w nodi |
||
Ymchwiliad i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd: Sylwadau gan yr Athro Stuart Cole am y llythyr gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, dyddiedig 20 Rhagfyr 2013 E&S(4)-10-14 paper 1 Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Nododd y Pwyllgor y papur. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd - Camau gweithredu sy'n codi o'r cyfarfod ar 5 Mawrth E&S(4)-10-14 papur 2 Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Bil Cynllunio Drafft (Cymru) - Gwybodaeth ychwanegol gan Cymorth Cynllunio Cymru ac Un Llais Cymru E&S(4)-10-14 papur 3 Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.3 Nododd y Pwyllgor y papur. |
||
Ymchwiliad i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd: Llythyr gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth E&S(4)-10-14
papur 4 Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
(11:50 - 12:10) |
Rheoli Tir yn Gynaliadwy: Trafod y materion allweddol Cofnodion: 1.1. Cytunodd y Pwyllgor ar y materion allweddol ar gyfer yr adroddiad ar
ei ymchwiliad i Reoli Tir yn Gynaliadwy, fel y nodwyd yn y papur a drafodwyd. |
|
(12:10 - 12:30) |
Blaenraglen waith Cofnodion: 1.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr haf. 8.2 Cytunodd y Pwyllgor ar gylch gorchwyl ar gyfer cynnal ymchwiliad i
goedwigaeth, a chytunodd y byddai'n ystyried cylch gorchwyl ar gyfer cynnal
ymchwiliad i reoli gwastraff yn ystod ei gyfarfod nesaf. |