Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
(09.15 - 10.00) |
Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): ystyried y materion allweddol Cofnodion: 1.1 Trafododd y Pwyllgor y prif faterion sydd wedi codi
wrth ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio
(Cymru). |
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 2.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau 2.2 Dirprwyodd Peter Black ar ran Kirsty Williams AC ar
gyfer yr eitem yn ymwneud â'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru). |
||
(10.00 - 11.15) |
Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 1 Mark
Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Aelod sy'n
gyfrifol David Pritchard, Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu’r
Gweithlu Kate Johnson, Cyfreithiwr Mari Williams, Cyfreithiwr Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Ymatebodd y Gweinidog i gwestiynau gan yr Aelodau. 3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu: ·
nodyn am unrhyw asesiad ariannol, y tu hwnt i’r hyn a
nodir yn y Memorandwm Esboniadol, a wnaed mewn perthynas â’i gwneud yn ofynnol
i gofrestru gweithwyr gofal cartref a gweithwyr cartrefi gofal i oedolion; ·
amlinelliad o’r wybodaeth y disgwylir iddi gael ei
chynnwys yn yr adroddiadau am sefydlogrwydd y farchnad leol y bydd yn rhaid i
awdurdodau lleol eu paratoi a’u cyhoeddi o dan adran 144B o’r Ddeddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (i’w mewnosod drwy gyfrwng
adran 55 o’r Bil); ·
rhyw syniad o’r amserlenni arfaethedig ar gyfer cyhoeddi
rheoliadau drafft o dan adran 60(6) a (7) yn ymwneud â gallu Gweinidogion, o
dan adran 60, i asesu cynaliadwyedd ariannol darparwyr gwasanaethau. |
|
(11.15) |
Papurau i’w nodi |
|
(11.15) |
Cofnodion cyfarfod 11 Mawrth 2015 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd
ar 11 Mawrth. |
|
(11.15) |
Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru): gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|
(11.15) |
Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru): gohebiaeth gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. |
|
(11.15) |
Ymchwiliad i’r gweithlu Meddygon Teulu yng Nghymru: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.4a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|
(11.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o eitem 1 yn y cyfarfod ar 23 Ebrill 2015 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.15 - 11.30) |
Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. 6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ragor o wybodaeth am y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru). |
|
(11.30 - 11.45) |
Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: trafod y llythyr drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft i’w anfon at y
Dirprwy Weinidog Iechyd ac fe’i derbyniwyd yn amodol ar rai mân newidiadau. |