Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
(09.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1 Ni
chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. 1.2 Dirprwyodd
Peter Black ar ran Kirsty Williams AC ar gyfer yr eitemau'n ymwneud â'r Bil
Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru). |
|
(09.00 - 09.50) |
Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 2 Tina
Donnelly, Y Coleg Nyrsio Brenhinol Lisa
Turnbull, Y Coleg Nyrsio Brenhinol Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau. |
|
(09.50 - 10.40) |
Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 3 Cynrychiolwyr Cyfarwyddwyr Nyrsio Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd GIG
Cymru: Rory Farrelly, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Ruth Walker, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau. 3.2
Cytunodd Rory Farrelly i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i'r Pwyllgor ynghylch
cynllun recriwtio diweddar Bwrdd Iechyd
Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i lenwi'r 140 swyddi nyrsio gwag yn y Bwrdd
Iechyd. Cytunodd Rory Farrelly hefyd i egluro'r dyddiadau cau perthnasol ar
gyfer ceisiadau a nifer y ceisiadau a ddaeth i law. |
|
(10.50 - 11.40) |
Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 4 Dr Phil
Banfield, BMA Cymru Dr Victoria
Wheatley, BMA Cymru Dr Rhid
Dowdle, Coleg Brenhinol y Ffisigwyr (Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau. |
|
(11.40 - 12.25) |
Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 5 Dr Sally
Gosling, Cymdeithas Siartredig y Ffisiotherapyddion Philippa
Ford, Cymdeithas Siartredig y Ffisiotherapyddion Dr Alison
Stroud, Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau. |
|
(12.25) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 8 Cofnodion: 6.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.25 - 12.40) |
Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 7.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. 7.2 Mae'r
Pwyllgor wedi cytuno i ofyn am wybodaeth ychwanegol am y trefniadau sydd ar
waith yn yr Alban i sicrhau lefelau diogel staff nyrsio heb ddeddfwriaeth. |
|
(12.40 - 12.45) |
Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): paratoi ar gyfer gwaith craffu Cofnodion: 8.1 Nododd
y Pwyllgor benderfyniad y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil at y
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1 a Chyfnod
2 a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ddweud nad oedd unrhyw
bryderon sylweddol ynghylch yr amserlen arfaethedig. 8.2
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at randdeiliaid i ddweud bod y Bil yn cael ei
gyflwyno. |
|
(13.30 - 14.15) |
Ymchwiliad i'r gweithlu Meddygon Teulu yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 1 Dr
Charlotte Jones, BMA Cymru Dr Phil
White, BMA Cymru Dr Peter
Horvath-Howard, BMA Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau. |
|
(14.15 - 15.00) |
Ymchwiliad i'r gweithlu Meddygon Teulu yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 2 Dr Paul
Myres, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Dr Rebecca
Payne, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Dogfennau ategol: Cofnodion: 10.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau. |
|
(15.15 - 16.00) |
Ymchwiliad i'r gweithlu Meddygon Teulu yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 3 Ms Mary
Beech, Deoniaeth Cymru Dr Martin
Sullivan, Deoniaeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 11.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau. 11.2
Cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor ynghylch: ·
amlinelliad
o'r costau'n gysylltiedig â chodi'r targed ar gyfer nifer y lleoedd ar gyrsiau
hyfforddi meddygon teulu o 136 i o leiaf 200 (fel yr argymhellir gan y
Gymdeithas Feddygol Brydeinig) neu i nifer y teimlent y byddai'n realistig; a ·
dadansoddiad
o'r ardaloedd a lleoliadau yng Nghymru lle nad yw lleoedd hyfforddi wedi'u
llenwi dros y 3 blynedd diwethaf. |
|
(16.00) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 12.0a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 31 Ionawr. |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Arloesi Meddygol: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ategol: Cofnodion: 12.1a
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth. |
||
Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau: P-04-600 Deiseb i achub y gwasanaeth meddygon teulu yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 12.2a Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth. |
||
(16.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o eitem 1 yn y cyfarfod ar 4 Chwefror 2015 Cofnodion: 13.1 Derbyniwyd
y cynnig. |
|
(16.00 - 16.15) |
Ymchwiliad i'r gweithlu Meddygon Teulu yng Nghymru: ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 14.1
Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |