Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
(09.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Dogfennau ategol:
Cofnodion: 1.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Janet Finch-Saunders. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Kirsty Williams. Dirprwyodd Peter Black ar ran Kirsty
Williams AC ar gyfer yr eitemau'n ymwneud â'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio
(Cymru). 1.3 Nododd
y Cadeirydd ddymuniadau gorau'r Pwyllgor i Kirsty Williams, a oedd yn absennol
o'r cyfarfod oherwydd salwch. Cytunodd y
Pwyllgor i drefnu dyddiad amgen er mwyn
i Kirsty Williams roi tystiolaeth fel yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil
Lefelau Diogel Staffio Nyrsio (Cymru). |
|
(09.00 - 09.45) |
Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 12 Dr Jean White, Prif Swyddog Nyrsio Fiona Davies, Cyfreithiwr Helen Whyley, Swyddog Nyrsio Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau. |
|
(09.45 - 10.45) |
Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 13 Mark
Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dr Jean White, Prif Swyddog Nyrsio Fiona Davies, Cyfreithiwr Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau. 3.2
Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor am ei bwerau cyfarwyddo o
dan Adran 12 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. |
|
(10.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 5, 6 ac 11 o'r cyfarfod. Cofnodion: 4.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.45 - 11.00) |
Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1
Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. 5.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ofyn i fyrddau iechyd lleol am wybodaeth ychwanegol am y trefniadau
sydd ganddynt ar waith i reoli'r gofal y maent yn ei gomisiynu gan y sector
annibynnol a/neu gan weinyddiaethau eraill (e.e. GIG Lloegr), yn enwedig: ·
a gaiff contractau safonol eu defnyddio ar gyfer
trefniadau o'r fath; ·
sut mae byrddau iechyd yn monitro cydymffurfiaeth â'r
contractau/cytundebau ar gyfer darparu'r gofal a gomisiynwyd ganddynt. 5.3 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i Gymdeithas Gofal Iechyd
Annibynnol Cymru am wybodaeth ychwanegol ynghylch: ·
ei sylw "it is important that should the Bill be
extended that this will include all of the Independent Sector not just NHS
funded care within the sector"; ac ·
a yw'r diwydiant yn cadw at unrhyw gymarebau staffio ar
hyn o bryd ac, os felly, pa gymarebau, i ba raddau y mae cydymffurfio yn cael
ei fonitro a chan bwy, a beth yw'r cyfraddau cydymffurfio. |
|
(11.00 - 11.20) |
Blaenraglen waith y Pwyllgor. Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Bu’r
Aelodau'n trafod y flaenraglen waith. 6.2
Cytunodd y Pwyllgor i drefnu rhagor o sesiynau tystiolaeth ar y Bil Lefelau
Diogel Staffio Nyrsio (Cymru), gan gynnwys sesiwn gyda Kirsty Williams, yr
Aelod sy'n gyfrifol am y Bil, ar 19 Mawrth 2015. 6.3
Cytunodd y Pwyllgor ar ddull ar gyfer casglu tystiolaeth lafar mewn perthynas â
gwaith craffu Cyfnod 1 y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru). 6.4 Nododd
y Pwyllgor y flaenraglen waith amlinellol o fis Ebrill i fis Gorffennaf 2015,
yn amodol ar drafod ymhellach cais y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i ohirio sesiwn gwaith craffu cyffredinol ac ariannol yr haf tan
yn ddiweddarach yn y flwyddyn. 6.5 Nododd
yr Aelodau y flaenraglen waith amlinellol ar gyfer gweddill y Pedwerydd
Cynulliad, a chytuno i ohirio penderfyniad ynghylch y blaenoriaethau a nodwyd
ganddynt yn flaenorol. |
|
(13.00 - 13.40) |
Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 1 Stephen
Harrhy, Prif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans Yr Athro
Siobhan McClelland, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau. 7.2
Cytunodd y tystion i ddarparu'r eitemau a ganlyn i'r Pwyllgor: ·
copi o'r
cytundeb dros dro gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar gyfer
2014-15; ·
syniad bras
o'r amserlenni ar gyfer y fframwaith comisiynu, ansawdd a darparu ac, unwaith y
bydd yn barod, copi o'r fframwaith. |
|
(13.40 - 14.20) |
Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 2 Mick Giannasi, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans
Cymru Tracy Myhill, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans
Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 8.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau. 8.2
Cytunodd y tystion i ddarparu'r eitemau a ganlyn i'r Pwyllgor: ·
manylion am
y cynlluniau peilot sydd ar waith ledled Cymru i wella gwasanaethau ambiwlans; ·
nifer y
galwadau brys Categori A a wnaed yn 2012 , 2013 a 2014, nifer y digwyddiadau y mae'r
galwadau hyn yn ymwneud â nhw, nifer y galwadau lle cyrhaeddodd y gwasanaethau
brys y digwyddiad, a nifer y galwadau lle cyrhaeddodd y gwasanaethau brys y
digwyddiad o fewn wyth munud; ·
y dyddiadau
y cafodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ei hymgynghori neu ei
chynnwys yn y penderfyniad a wnaed i atal gofal mamolaeth dan arweiniad meddyg
ymgynghorol yn Ysbyty Glan Clwyd; a ·
chopi o
gynllun gweithredu ar gyfer gwella Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
ar gyfer y flwyddyn nesaf. |
|
(14.30 - 15.10) |
Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 3 Adam Cairns, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Alison Williams, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Cofnodion: 9.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau. 9.2
Cytunodd y tystion i ddarparu'r eitemau a ganlyn i'r Pwyllgor: ·
manylion ar
gyfer y mis diwethaf (Chwefror 2015) am nifer yr ambiwlansys a gyrhaeddodd pob
adran damweiniau ac achosion brys yn ardaloedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd
a'r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, ac, os yw'n bosibl, yr orsaf
ambiwlansys lle y mae pob un o'r ambiwlansys hynny wedi'u lleoli; ·
manylion am
nifer y cleifion sy'n profi oedi wrth gael eu trosglwyddo yn ardal Bwrdd Iechyd
Prifysgol Caerdydd a'r Fro; ·
manylion am
y camau gweithredu y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn eu cymryd i
leihau oedi wrth drosglwyddo cleifion, y gwelliannau y disgwylir eu cyflawni,
a'r amserlenni cysylltiedig; a ·
chopi o'r
adroddiad ar yr ymchwiliad i brofiadau o ran gofal heb ei drefnu ym mhob bwrdd
iechyd lleol, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2015. |
|
(15.10) |
Papurau i’w nodi: |
|
Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau: P-04-625 Cefnogaeth i Fil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 10.1a
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth. |
||
Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): Crynodeb o'r dystiolaeth a gafwyd gan ymgyrch y Coleg Nyrsio Brenhinol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 10.2a
Nododd y Pwyllgor y crynodeb o'r dystiolaeth. |
||
(15.10 - 15.20) |
Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 11.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / y Dirprwy Weinidog Iechyd. |