Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriad gan Lynne Neagle. |
||
(09.15 - 10.00) |
Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): sesiwn dystiolaeth 9 Sarah
Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau. 2.2 Cytunodd y Comisiynydd Pobl Hŷn i ddarparu'r eitemau a ganlyn i'r
Pwyllgor: ·
copi o'i llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn nodi
ei barn ar y Bil; ac ·
astudiaethau achos o'r effaith y gallai'r Bil ei chael ar bobl hŷn yng
Nghymru. |
|
(10.00 - 10.45) |
Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): sesiwn dystiolaeth 10 Rosanne
Palmer, Cyngrhair Henoed Cymru John Moore,
Fy Mywyd Mewn Cartref Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau'r Aelodau. 3.2 Cytunodd Dr Rosanne Palmer i ddarparu nodyn ynghylch: ·
amheuon un o aelodau Cynghrair Henoed Cymru ynghylch ymestyn cofrestru i'r
gweithlu gofal cymdeithasol cyfan; ac ·
Safbwynt Cynghrair Henoed Cymru ar sicrhau effeithiolrwydd ariannol yn
ymwneud â defnyddio arolygwyr lleyg. 3.3 Cytunodd y tystion i ysgrifennu at y Pwyllgor i rannu eu barn ynghylch
a ddylai'r Bil nodi y dylai'r rhai sy'n ymwneud â gwasanaethau comisiynu a rhoi
contractau i gwmnïau preifat gael eu hatal rhag gweithio i gwmnïau o'r fath o
fewn cyfnod penodedig. |
|
(10.55 - 11.25) |
Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): sesiwn dystiolaeth 11 Loraine Brannan, Grŵp Ymgyrchu ‘Cyfiawnder i
Jasmine’ Pamela Cook, Grŵp Ymgyrchu ‘Cyfiawnder i Jasmine’ Kelvyn Morris, Grŵp Ymgyrchu ‘Cyfiawnder i Jasmine’ Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau'r Aelodau. 4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i ofyn sut y byddai'r Bil yn rhoi ystyriaeth i adolygiad
annibynnol Dr Margaret Flynn o Ymgyrch Jasmine. |
|
(11.25 - 11.55) |
Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): sesiwn dystiolaeth 12 Robin Moulster, Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol
Prydain, Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau’r Aelodau. |
|
(11.55) |
Papurau i’w nodi |
|
Cofnodion cyfarfod 23 Ebrill 2015 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ebrill. |
||
Cofnodion cyfarfod 29 Ebrill 2015 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.2a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ebrill. |
||
Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): gwybodaeth ychwanegol gan Gynghreiriau Ailalluogi Cymru, Cynhalwyr Cymru a Gofal Cymdeithasol a Lles Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.3a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Gynghreiriau Ailalluogi
Cymru, Cynhalwyr Cymru a Gofal Cymdeithasol a Lles. Nododd fod y wybodaeth hefyd
yn cael ei chymeradwyo gan Gynghrair Iechyd Meddwl Cymru. |
||
P-04-603 Helpu Babanod 22 Wythnos Oed i Oroesi: gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.4a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth:
|
||
Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.5a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd. |
||
Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.6a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol. |
||
(11.55) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o eitem 1 yn y cyfarfod ar 21 Mai 2015 Cofnodion: 7. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(11.55 - 12.05) |
Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): trafod y dystiolaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Nododd y Pwyllgor yr ymatebion i'r ymgynghoriad, ac ystyriodd y
dystiolaeth a dderbyniwyd. |
|
(12.05 - 12.15) |
Rheoliadau mewn perthynas â chymhwysedd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: trafod y dull o weithredu Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar reoliadau mewn perthynas â
chymhwysedd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a
chytunodd arno. |