Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
(09.05 - 09.15) |
Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): trafodaeth am drefn ystyried trafodion Cyfnod 2 Sylwer:
Bydd trafodion Cyfnod 2 ar y Bil hwn ond yn mynd ymlaen os cytunir ar yr
Egwyddorion Cyffredinol ar 3 Mehefin 2015. Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1
Cytunodd y Pwyllgor ar drefn ystyried trafodion Cyfnod 2 y Bil Lefelau Diogel
Staff Nyrsio (Cymru) mewn egwyddor. |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 2.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Lynne Neagle. |
||
(09.15 - 10.00) |
Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 13 Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru Hywel Dafydd, Comisiynydd Plant Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau. 3.2
Cytunodd y Comisiynydd Plant i ddarparu'r eitemau a ganlyn i'r Pwyllgor: ·
canfyddiadau
adolygiad y Comisiynydd o'r broses o gomisiynu gwasanaethau eiriolaeth; ·
ei barn ar
adran 57 o'r Bil ar swyddogaethau awdurdodau lleol sy’n ymwneud â phlant sy’n
derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya. |
|
(10.00 - 10.45) |
Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 14 Samantha Clutton, Barnardo’s Cymru Cecile Gwilym, NSPCC Cymru Catriona Williams, Plant yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau. 4.2
Cytunodd Catriona Williams a Cecile Gwilym i roi eu barn i'r Pwyllgor ynghylch
a yw'r Bil yn rhoi diffiniad digon clir o weithiwr gofal cymdeithasol. 4.3
Cytunodd Samantha Clutton a Cecile Gwilym i roi eu barn i'r Pwyllgor ar sut y
gellid atgyfnerthu'r Bil o ran comisiynu gwasanethau gan awdurdodau lleol. |
|
(11.00 - 11.30) |
Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 15 Kate Chamberlain,
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Nia Roberts, Arolygiaeth
Gofal Iechyd Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau. |
|
(11.30 - 12.00) |
Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 16 Lin Slater, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Lynda Williams, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Cofnodion: 6.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau'r Aelodau. |
|
(12.00) |
Papurau i’w nodi |
|
Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru): gohebiaeth gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1a Nododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth. |
||
(12.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 8.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.00 - 12.15) |
Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): trafod y dystiolaeth Cofnodion: 9.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. 9.2
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at sefydliadau gofalwyr maeth i ofyn eu barn
ar ymestyn y gofyniad i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i ofalwyr
maeth. |
|
(12.15 - 12.25) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): paratoi ar gyfer gwaith craffu Dogfennau ategol: Cofnodion: 10.1 Nododd y Pwyllgor benderfyniad y Pwyllgor Busnes
mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol graffu
arno yng Nghyfnod 1 a Chyfnod 2 a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i
ddweud bod ganddo bryderon sylweddol ynghylch yr amserlen arfaethedig a'r pwysau
y byddai hynny'n eu rhoi ar ei lwyth gwaith. 10.2 Hefyd,
cytunodd y Pwyllgor i ofyn i'r Pwyllgor Busnes ymestyn y terfyn amser ar gyfer
craffu ar y Bil yng Nghyfnod 1 o ddwy wythnos er mwyn caniatau ar gyfer
ymrwymiadau gwaith eraill. |