Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1
Cafwyd ymddiheuriadau gan Janet Finch-Saunders. 1.2
Diolchodd y Cadeirydd Mike Hedges AC am ei waith fel Cadeirydd y Pwyllgor a
hefyd Gareth Bennett AC sydd wedi symud i fod yn aelod o'r Pwyllgor Busnes. |
||
Deisebau newydd |
||
P-05-757 Cael Gwared ar y Rhwymedigaeth ar Ysgolion i Gynnal Gweithredoedd Addoli Crefyddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a
ganlyn: ·
Ystyried y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-765 Cadw canllawiau presennol ar
gyfer Gwasanaethau Crefyddol yn y dyfodol; ac ·
Ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn a fydd Llywodraeth
Cymru yn ystyried adolygu'r gyfraith a'r canllawiau presennol ynghylch addoli
ar y cyd, ac a oes ystyriaeth wedi'i rhoi i p'un a yw'r gofynion presennol yn
cyd-fynd â chyfraith hawliau dynol. |
||
P-05-765 Cadw canllawiau presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a
ganlyn:
|
||
P-05-761 Mynnu cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Autism Spectrum Connections Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
Autism Spectrum Connections Cymru yn gofyn am eu meddyliau am y ddeiseb a'r
ymateb gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. |
||
P-05-762 Symud Cynulliad Cymru o Gaerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb
y deisebydd cyn penderfynu pa gamau pellach i'w cymryd ar y ddeiseb. |
||
P-05-764 Gwell Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Oedolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb
y deisebydd ar ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
cyn penderfynu pa gamau pellach i'w cymryd ar y ddeiseb. |
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
||
P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais
Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig a chytunwyd i ofyn i'r ddau ddeisebydd ac
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig roi tystiolaeth
i'r Pwyllgor ar ddechrau tymor yr hydref. |
||
P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-472 Gwnewch y Nodyn
Cyngor Technegol Mwynau yn Ddeddf a chytunwyd i ofyn i'r ddau ddeisebydd ac
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig roi tystiolaeth
i'r Pwyllgor ar ddechrau tymor yr hydref. |
||
P-05-743 Rhowch Derfyn ar Fasnachu Anifeiliaid Anwes Egsotig yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunwyd i aros am farn y deisebydd ar y
wybodaeth a ddarparwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet cyn penderfynu pa gamau
pellach i'w cymryd ar y ddeiseb. |
||
P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-606 Sicrhau bod ysgolion
yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru
Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn, a chytunwyd i aros
am ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ôl cwblhau'r
adolygiad presenoldeb yn ddiweddarach eleni cyn trafod camau pellach ar y
ddeiseb. |
||
P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn. Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-576 Caniatáu i Blant yng
Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol, a chytunwyd i aros am
ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ôl cwblhau adolygiad
presenoldeb yn ddiweddarach eleni cyn trafod camau pellach ar y ddeiseb. |
||
P-04-679 Dileu'r Cymhwyster Bagloriaeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan nad oedd modd gweld sut i fwrw
ymlaen â'r ddeiseb yn absenoldeb cyswllt â'r deisebydd, ac o ystyried ymrwymiad
pendant i Fagloriaeth Cymru a nodwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru. |
||
P-05-707 Rhaid i Hyfforddiant Athrawon Gynnwys Hyfforddiant Statudol ar Awtistiaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a
chytunwyd i aros am farn y deisebydd ar y wybodaeth a ddarparwyd gan
Ysgrifennydd y Cabinet cyn penderfynu pa gamau pellach i'w cymryd ar y ddeiseb. |
||
P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion:
|
||
P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd,
Llesiant a Chwaraeon a chytunwyd i aros am farn y deisebydd ar y wybodaeth a
ddarparwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet cyn penderfynu pa gamau pellach i'w
cymryd ar y ddeiseb. |
||
P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebydd ac, o ystyried bod
sylw manwl wedi'i roi i'r ddeiseb hon dros nifer o flynyddoedd a'r ymatebion
cynhwysfawr diweddar gan y byrddau iechyd, cytunwyd i gau'r ddeiseb ar y sail y byddai'n
well i'r materion sy'n weddill gael eu datrys ar lefel weithredol. Wrth wneud
hynny, cytunodd Aelodau i roi cynigion pellach y deisebwyr i Lywodraeth Cymru
er gwybodaeth gan ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a
Chwaraeon a fyddai'n barod i gyfarfod â nhw. |
||
P-05-720 Deiseb Cyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn i Osod Band Eang Ffibr Opteg yn y Pentref Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth a
chytunwyd i gau'r ddeiseb ar y sail bod cyflwyno band eang ffibr opteg i fod i
gael ei gwblhau'n fuan, ac y gellir codi materion penodol gyda Llywodraeth
Cymru gan ddefnyddio'r wybodaeth gyswllt a ddarparwyd gan y Gweinidog. |
||
P-05-725 Ehangu'r A470 o Bontypridd i gyfnewidfa Coryton, i fod â thair lôn Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan ei bod hi'n anodd ei dwyn ymlaen yn
absenoldeb cyswllt â'r deisebydd. |
||
P-05-742 Peidiwch â gadael i Forsythia gau! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i
ysgrifennu at: ·
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ofyn am ddiweddariad ar
ddatblygiad dull newydd Llywodraeth Cymru i greu cymunedau gwydn; a ·
rheolwyr y ganolfan i ofyn am gymhariaeth o ran sut bydd y gwasanaeth a
ddarperir yn wahanol yn dilyn y newidiadau. |
||
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd yr Aelodau y ddau bapur. |
||
(10.15 - 10.45) |
Sesiwn dystiolaeth – P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i Bawb Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Ruth Conway, Llywodraeth Cymru Claire Rowlands, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Atebodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes gwestiynau gan y Pwyllgor. |