Ymchwiliad i’r gwaith o weithredu’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a’i ddatblygiad yn y dyfodol
Ymchwiliad i’r gwaith o weithredu’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a’i ddatblygiad yn y dyfodol
Ymchwiliad gwreiddiol y Pwyllgor
Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i weithredu’r Fframwaith
Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru a’i gyfeiriad yn y
dyfodol yn ystod 2012/13.
Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd archwilio’r cynnydd a
wnaed o ran gweithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes
yng Nghymru o fewn y byrddau iechyd lleol a pha mor ddigonol ac effeithiol ydyw
o ran atal a thrin diabetes yng Nghymru.
Trafododd y Pwyllgor hefyd y camau gweithredu posibl y
bydd eu hangen yn y dyfodol i lywio’r agenda hon.
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth
am y pwnc hwn.
Adroddiad y Pwyllgor
Cyhoeddodd
y Pwyllgor ei adroddiad (PDF, 837KB) ym mis Mehefin 2013. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru (PDF, 208KB) ym mis Hydref 2013. Cynhaliwyd y ddadl
yn y Cyfarfod Llawn ar 16
Hydref 2013.
Gwaith dilynol y Pwyllgor
Yn haf 2014, cytunodd y
Pwyllgor i ofyn am adroddiad diweddaru gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol ar y cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu argymhellion y
Pwyllgor. Ymatebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Medi
2014.
Mae diweddariad
y Gweinidog (PDF, 334KB) yn pwysleisio bod llawer o argymhellion y
Pwyllgor yn cael eu gweithredu drwy’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes. Yn
sgil yr ymateb hwn, cytunodd y Pwyllgor i ohirio penderfyniad ar p’un a ddylid
ymgymryd ag unrhyw waith dilynol yn y dyfodol tan ar ôl cyhoeddi’r adroddiad
blynyddol ar y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes. Deallir y caiff yr adroddiad
ei gyhoeddi ddiwedd 2014.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/07/2012
Dogfennau
- Ymchwiliad i weithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a’i gyfeiriad yn y dyfodol - Adroddiad - Mehefin 2013 PDF 1 MB
- Ymchwiliad i weithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a’i gyfeiriad yn y dyfodol - Ymateb Llywodraeth Cymru - Hydref 2013
- Ymchwiliad i’r gwaith o weithredu’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a’i ddatblygiad yn y dyfodol - Adroddiad cynnydd Llywodraeth Cymru – Medi 2014 PDF 563 KB Gweld fel HTML (3) 76 KB
Ymgynghoriadau