Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Cyswllt: Polisi: Llinos Dafydd / Deddfwriaeth: Fay Buckle
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau oddi wrth Vaughan Gething a Darren Millar. Nid oedd dirprwyon. |
||
(09.30 - 12.10) |
Ymchwiliad i'r gwaith o weithredu'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a'i gyfeiriad yn y dyfodol - Tystiolaeth lafar |
|
09.30 - 10.20: Diabetes UK Cymru HSC(4)-30-12
papur 1 – Tystiolaeth gan Diabetes UK Cymru Dai Williams, Cyfarwyddwr Diabetes UK
Cymru Jason Harding, Rheolwr Polisi, Diabetes UK Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Bu’r tystion yn ymateb i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor. |
||
10.20 - 11.10: Coleg Brenhinol y Ffisigwyr, Cymdeithas Diabetolegwyr Clinigol Prydain, a Chymdeithas Feddygol Prydain HSC(4)-30-12 papur
2 – Tystiolaeth gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr a Chymdeithas Diabetolegwyr
Clinigol Prydain Dr Meurig Williams, Cynghorydd Rhanbarthol Cymru, Coleg Brenhinol y
Ffisigwyr Dr Aled Roberts, Cymdeithas Diabetolegwyr Clinigol Prydain HSC(4)-30-12 papur
3 – Tystiolaeth gan Gymdeithas Feddygol Prydain Dr Ian Millington Dr Mark Temple Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.2 Bu’r tystion yn ymateb i gwestiynau oddi wrth Aelodau’r Pwyllgor. 2.3 Cytunodd Dr Temple i roi nodyn i’r Pwyllgor ar y gostyngiad yn nifer y meddygon iechyd cyhoeddus yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. |
||
11.20 - 12.10: Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a Fferylliaeth Gymunedol Cymru HSC(4)-30-12
papur 4 – Tystiolaeth gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol Mair Davies, Cadeirydd, Bwrdd
Fferylliaeth Cymru Paul Gimson, Cyfarwyddwr Cymru, Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol HSC(4)-30-12
papur 5 – Tystiolaeth gan Alliance Boots Russell Goodway, Prif Weithredwr
Fferylliaeth Gymunedol Cymru Marc Donovan, Aelod o Fwrdd Fferylliaeth Gymunedol Cymru a Phennaeth Gallu
Proffesiynol Alliance Boots Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.4 Bu’r tystion yn ymateb i gwestiynau oddi wrth Aelodau’r Pwyllgor. 2.5 Cytunodd Mr Gimson i rannu papur â’r Pwyllgor ar ganlyniadau fferyllwyr yn darparu addysg strwythuredig i gleifion diabetes. |
||
(12.10 - 12.15) |
Papurau i'w nodi Cofnodion y
cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 17 a 25 Hydref, a 7 Tachwedd Dogfennau ategol: |
|
Blaenraglen Waith - Tachwedd i Ragfyr 2012 HSC(4)-30-12 papur 6 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor y papur. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am amser yn gynnar yn 2013 i gwrdd â'r Fforwm Clinigol Cenedlaethol, Deoniaeth Cymru a sefydliadau cenedlaethol eraill i barhau â'i ystyriaeth o gynlluniau ad-drefnu gwasanaethau y byrddau iechyd. |
||
Gohebiaeth gan Mick Antoniw AC ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) HSC(4)-30-12 papur 7 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr. 3.4 Dywedodd Mick Antoniw wrth y Pwyllgor na fyddai'n bresennol yn y sesiynau lle fydd y Pwyllgor yn trafod y Bil, gan mai ef yw’r Aelod sy’n gyfrifol am y Bil. |
||
Gohebiaeth gan Arweinydd y Tŷ ar Reoliadau Mangreoedd etc Di-fwg (Cymru) (Diwygio) HSC(4)-30-12 papur 8 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
(12.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 5 ac ar gyfer eitem 1 y cyfarfod ar 21 Tachwedd Cofnodion: 4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(13.15 - 14.30) |
Ymchwiliad i Ofal Preswyl i Bobl Hŷn - Trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr adroddiad drafft a chytunodd i drefnu sesiwn i’w drafod eto ar 21 Tachwedd. |
|
Trawsgrifiad |