Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd

Cyswllt: Polisi: Llinos Dafydd  Legislation: Steve George/Sarah Beasley

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Trafod y Prif Faterion

Ar sail y penderfyniad a dderbyniwyd gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 30 Ionawr 2013, yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi), bydd y Pwyllgor yn trafod yr eitem hon yn breifat.

Cofnodion:

1.1 Ar sail y penderfyniad a basiwyd gan y Pwyllgor yn y cyfarfod ar 30 Ionawr 2013, ac yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(ix), trafododd y Pwyllgor yr eitem hon mewn sesiwn breifat.

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar.

(10.00 - 10.45)

3.

Bil Trawsblannu Dynol (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 8

Patient Concern

 

Joyce Robins

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clwyodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Joyce Robins, cyd-sylfaenydd Patient Concern.

(11.00 - 12.00)

4.

Bil Trawsblannu Dynol (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 9

Y Parch. Aled Edwards, Prif Weithredwr, Cytûn - Eglwysi Ynghyd yng Nghymru ac Ysgrifennydd Cyngor Rhyng-ffydd Cymru

Geraint Hopkins, Swyddog Polisi, Cytûn - Eglwysi Ynghyd yng Nghymru

Saleem Kidwai, Cyngor Mwslimiaid Cymru

Y Parch. Carol Wardman, Cynghorydd Esgobion ar yr Eglwys a Chymdeithas, yr Eglwys yng Nghymru

Stephen Wigley, Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Parchedig Aled Edwards, Prif Weithredwr, Cytûn - Eglwysi Ynghyd yng Nghymru ac Ysgrifennydd Cyngor Rhyng-ffydd Cymru; Geraint Hopkins, Swyddog Polisi, Cytûn - Eglwysi Ynghyd yng Nghymru; Saleem Kidwai, Cyngor Mwslimiaid Cymru; y Parchedig Carol Wardman, Cynghorydd Esgobion ar yr Eglwys a Chymdeithas, yr Eglwys yng Nghymru; a Stephen Wigley, yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru.

 

(12.00-12.20)

5.

Trafod llythyr y Pwyllgor Busnes ynghylch amserlenni'r pwyllgorau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr a chytunodd i ymateb i’r Pwyllgor Busnes yn nodi nad oedd yn fodlon â’r cynnig.

(12.20-12.25)

6.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd blaenorol.

(13.30 - 14.15)

7.

Bil Trawsblannu Dynol (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 10

Yr Athro John Saunders

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro John Saunders.

Trawsgrifiad