Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Bil Llywodraeth, a gyflwynwyd gan Lesley Griffiths AC, y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn dilyn newid ym mhortffolios y
Gweinidogion ym mis Mawrth 2013, fe wnaeth y Prif Weinidog awdurdodi Mark
Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, fel yr Aelod
newydd sy'n gyfrifol am y Bil, o 18 Mawrth 2013. Cyfeiriwyd y Bil at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gan y
Pwyllgor Busnes.
Y Bil
Nod y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) yw cynyddu nifer yr organau a'r
meinweoedd sydd ar gael at ddibenion trawsblannu, gan gyflwyno system feddal o
optio allan ar gyfer rhoi organau a meinweoedd yng Nghymru.
Cyfnod presennol
Daeth Deddf
Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 (gwefan allanol) yn gyfraith yng Nghymru
(gwefan allanol) ar 10 Medi 2013.
Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil
drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyfnod
|
Dogfennau
|
Cyflwyno'r Bil – 3 Rhagfyr 2012
|
Bil
Trawsblannu Dynol (Cymru) - fel y'i cyflwynwyd (PDF, 115KB)
Memorandwm
Esboniadol (PDF, 438KB)
Datganiad
y Llywydd am Gymhwysedd Deddfwriaethol: 3 Rhagfyr 2012 (PDF, 125KB)
Adroddiad
y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil (PDF, 73KB)
Datganiad yn y
Cyfarfod Llawn: Cyflwyno Bil Trawsblannu Dynol (Cymru): 4 Rhagfyr 2012
Crynodeb
y Gwasanaeth Ymchwil o’r Bil (PDF, 377KB)
Datganiad
ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: 19 Hydref
2012
Datganiad
ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: 3 Rhagfyr
2012
Geirfa’r
Gyfraith – Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)
|
Cyfnod 1 - Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol
|
Llythyr ymgynghori
(PDF, 241KB)
Ymatebion i’r ymgynghoriad
Ystyriodd y Pwyllgor y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:
5 Rhagfyr 2012
24
Ionawr 2013
30 Ionawr 2013
7 Chwefror 2013
20 Chwefror 2013
28 Chwefror 2013
14 Mawrth 2013 (preifat)
18
Mawrth 2013
19
Mawrth 2013
Gohebiaeth y
Gweinidog
Adroddiad
Cyfnod 1 y Pwyllgor (PDF, 1MB)
Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (PDF, 573KB)
|
Cyfnod 1 - Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol
|
Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn
y Cyfarfod Llawn ar 16
Ebrill 2013.
|
Penderfyniad Ariannol
|
Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) yn
y Cyfarfod Llawn ar 16
Ebrill 2013.
|
Cyfnod 2 - Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau
|
Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 2 yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 22 Mai 2013.
Cofnodion Cryno: 22
Mai 2013
Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau: 13 Mai 2013 (PDF, 64KB)
Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau: 15 Mai 2013 (PDF, 77KB)
Rhestr
o Welliannau wedi’u Didoli: 22 Mai 2013 (PDF,
107KB)
Grwpio Gwelliannau:
22 Mai 2013 (PDF, 44KB)
Bil
Trawsblannu Dynol (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (PDF, 107KB) (Caiff
y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.)
Memorandwm
Esboniadol, diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (PDF, 457KB)
Crynodeb gan y
Gwasanaeth Ymchwil o’r newidiadau i’r Bil yn ystod Cyfnod 2
Gohebiaeth y
Gweinidog
|
Cyfnod 3 - y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau
|
Cafodd y gwelliannau eu hystyried a’u gwaredu yn ystod trafodion Cyfnod 3 yn
y Cyfarfod Llawn ar 2
Gorffennaf 2013.
Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau: 21 Mehefin 2013 (PDF, 99KB)
Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau: 25 Mehefin 2013 (PDF, 90KB)
Rhestr
o Welliannau wedi’u Didoli: 2 Gorffennaf 2013 (PDF, 168KB)
Grwpio
Gwelliannau: 2 Gorffennaf 2013 (PDF, 63KB)
Gohebiaeth y Gweinidog
|
Cyfnod 4 - Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn
|
Cytunodd y Cynulliad ar y Bil ar 2 Gorffennaf 2013yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y Bil, fel
y’i pasiwyd (PDF, 140KB)
Bil
Trawsblannu Dynol (Cymru), fel y'i pasiwyd (Crown XML)
|
Dyddiad Cydsyniad Brenhinol
|
Rhoddwyd
Cydsyniad Brenhinol ar 10 Medi 2013.
|
Gwybodaeth gyswllt
Clerc: Sarah Beasley
Cyfeiriad Postio:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Ffacs: 029 2089 8021
E-Bost: SeneddIechyd@Cynulliad.cymru
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.23
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5199 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Trawsblannu Dynol
(Cymru)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid
|
Ymatal
|
Yn erbyn
|
Cyfanswm
|
41
|
5
|
9
|
55
|
Derbyniwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 17/04/2013
Dyddiad y penderfyniad: 16/04/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/04/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad