Digwyddiad

Ymweliad Pwyllgor:Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: grwpiau ffocws

Dyddiad: Dydd Iau 2 Hydref 2014

Amser: 09.30 - 14.30

Lleoliad: Wrecsam, Caerffilli a Merthyr Tudful

Disgrifiad: Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnal gweithgarwch ymgysylltu anffurfiol ar gyfer ei ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"). Bydd y Pwyllgor yn rhannu yn ddau grŵp i hwyluso trafodaethau yng Ngogledd a De Cymru. Bydd y Pwyllgor yn ymgymryd â nifer o ymweliadau a bydd yn cynnal dau grŵp ffocws. Bydd y grwpiau ffocws yn cynnwys staff rheng flaen o amrywiaeth o feysydd a gwasanaethau, a staff sy’n gweithio gyda phobl o bob oed. Drwy wahoddiad yn unig.

Linc: http://senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=10562

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr